Llyfrgell Pethau
Pam benthyca?
Yn syml, mae gennym ormod o bethau! Gadewch i ni eu rhannu. Nid oes angen dril ar bawb yn eich cymdogaeth, nid oes gan bawb le i storio pethau ac ni all pawb fforddio prynu’r pethau sydd eu hangen arnynt. Rydym eisiau parhau i ddefnyddio pethau am gyn hired ag sy’n bosibl.
Trwy fenthyca, gallwn helpu ein gilydd a byw’n fwy cynaliadwy. Mae llai o bethau’n golygu llai o effaith ar y blaned.