Ailgylchu Cymunedol
A-Y
Addurniadau'r Nadolig
Ni ellir ailgylchu'r rhan fwyaf ohonynt (oni bai eu bod wedi’u gwneud o bapur 100%). Rhowch nhw gyda’r sbwriel cyffredinol.
Ailgylchu Eitemau mewn Fflatiau
Mwy o wybodaeth yma
Amlenni
Bag glas (gan gynnwys y rhai sydd â ffenestri)
Anadlyddion asthma
Mae'r rhan fwyaf o fferyllfeydd yn derbyn anadlyddion sydd wedi’u defnyddio
Argraffwyr (domestig bach)
Bocs gwyrdd (tynnwch y cetris inc allan os gwelwch yn dda)
Asbestos
Gwastraff peryglus. Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd am gyngor ynghylch cael gwared ohono.
Bagiau
Bagiau llaw, cesys ac ati. Mae'n ddrwg gennym ond ni allwn ailgylchu'r rhain
Bagiau a Chesys
yn anffodus, nid ydym yn casglu'r rhain.
Bagiau Bara
Ddim ar garreg y drws, ond mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr fannau casglu ar gyfer ffilm plastig
Bagiau Jiffy
ni ellir ailgylchu'r rhain.
Bagiau llaw
yn anffodus, nid ydym yn casglu'r rhain.
Bagiau Plastig
Peidiwch â’u rhoi gyda’r deunydd ailgylchu sy’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd. Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd bwyntiau ailgylchu bagiau plastig.
Bagiau Te
Cadi bwyd brown
Batris (car)
mae’r rhain yn cael eu categoreiddio fel gwastraff peryglus. Pan fyddwch yn prynu batri newydd ar gyfer eich car, byddwch yn talu am ailgylchu'r hen fatri. Peidiwch byth ag arllwys asid batri i lawr draen neu i mewn i gwrs dŵr.
Batris (Domestig)
NID ydym yn casglu'r rhain. Mae gan y mwyafrif o archfarchnadoedd mawr stondinau lle gallwch gael gwared â’ch batris.
Batris Car
Pan fyddwch chi'n prynu batri newydd, byddwch chi eisoes yn talu am ailgylchu'r hen un. Os yw'n fatri sbâr, ewch â fo i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau.
Beiciau
Gwerthwch nhw neu eu rhoi i ffwrdd i gartref da neu eu rhoi i'r Siop yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau.
Bleinds
Ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau.
Bocsys ffrwythau
Bag coch
Bocsys pizza (tecawê)
Bag glas. Tynnwch unrhyw fwyd a/neu blastig oddi arnynt os gwelwch yn dda.
Bocsys wyau
Bag glas gyda chardbord.
Braster
Cadi bwyd cegin.
Bubblewrap
Ni ellir ei ailgylchu ond gellir ei ailddefnyddio.
Bwrdd plastr
Dim yn cael ei gasglu o ymyl y ffordd ond gallwch fynd ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Bylbiau golau
Ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Peidiwch â’u rhoi i mewn gyda gwydr.
Caniau
Bag coch
Caniau Alwminiwm
Bag coch
Capsiwlau coffi Tassimo
NID ydym yn eu casglu. Os oes gennych un, gellir ailgylchu'r capsiwlau yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Cardbord
Rhowch unrhyw gardbord yn y bag glas. Rydym hefyd yn derbyn rhywfaint ar wahân os ydyw, ar ôl ei blygu, yr un maint â'r bag glas. Os oes gennych lot o gardbord, gallwch fynd â fo i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Ffordd y Dociau (gweler yma am ganllawiau). Neu ffoniwch y cyngor i drefnu casgliad gwastraff swmpus
Cardiau
Bag glas
Carpedi
Ni ellir eu hailgylchu. Ewch i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau neu trefnwch gasgliad gwastraff swmpus gan y cyngor
Cartonau bwyd Tetra Pak
Bag coch
Cartonau sudd (wedi eu gwneud o gardbord)
Bag coch
Casau Gobennydd
Dydyn ni ddim yn casglu'r rhain ond mae rhai siopau elusen yn eu cymryd
Casetiau Sain
Ni ellir eu hailgylchu
Catalogau
Bag glas
CDs a DVDs
Ni ellir eu hailgylchu ond os ydynt yn dal i weithio, rhowch nhw i siop elusen neu'r siop yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Cetris argraffydd
Yn anffodus, nid ydym yn eu cymryd
Cetris inc
Ni allwn ailgylchu'r rhain, rhowch nhw mewn bin sbwriel neu edrychwch ar-lein, bydd rhai lleoedd yn gallu eu hail-lenwi i chi
Cewynnau
ni fedrir ailgylchu bagiau cewynnau, cadachau a gwlân cotwm, yn ogystal â chynhyrchion anymataliaeth ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r Cyngor i gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu 'cewynnau a gwastraff hylendid' am ddim ar gyfer yr eitemau hyn neu eu rhoi yn eich bin du ar olwynion. Neu ystyriwch gyfnewid cewynnau untro am gewynnau y gellir eu hailddefnyddio; cliciwch yma i ddarganfod mwy. Dolen i https://wastesavers.co.uk/newport-nappy-library/
Clingfilm
Ni ellir ei ailgylchu
Clustogau
ni ellir eu casglu o ymyl y ffordd, ewch â nhw i siop y ganolfan ailgylchu neu siop elusen arall
Coed Nadolig
Nid yw Wastesavers yn casglu'r rhain ond gall Cyngor Dinas Casnewydd eu casglu am ffi fechan fel gwastraff swmpus neu fel rhan o’r casgliad gwastraff gardd o fis Mawrth ymlaen
Compost
Cyngor Casnewydd sy'n rhedeg y gwasanaeth casglu gwastraff gardd gwyrdd am ran helaeth o'r flwyddyn
Consolau gemau
bocs gwyrdd
Cwiltiau a duvets
Ni ellir eu hailgylchu
Cydau bwyd anifeiliaid anwes
Canolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Cydau bwyd cath – ni allwn eu casglu o ymyl y ffordd. Cyfrifiaduron
Os ydynt wedi torri, rhowch nhw yn y bocs gwyrdd. Os ydynt yn gweithio, cysylltwch gyda Chanolfan Ailddefnyddio Wastesavers neu rhowch nhw i’r Siop yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Cylchgronau
Bag glas
Cyllyll
dydyn ni ddim yn eu casglu ond mae nifer o siopau elusen yn eu cymryd
Cyllyll a ffyrc ac ati
Ni ellir eu casglu o ymyl y ffordd ond mae'r rhan fwyaf o siopau elusen yn eu derbyn
Cyrcs
wedi eu gwneud o blastig – ni ellir ailgylchu'r rhain, rhowch nhw gyda’r gwastraff cyffredinol. Gellir compostio cyrcs ond ddim mewn gwastraff bwyd
Chwaraewyr DVD / Recordwyr fideo
Bocs gwyrdd
Dail
Compostiwch gartref neu defnyddiwch wasanaeth gwastraff gardd y cyngor
Deunydd gwely anifeiliaid anwes
Anifeiliad llysysyddol yn unig – gellir ei roi gyda’r gwastraff gardd. Ni chymerir unrhyw ddeunydd gwely arall
Deunydd gwely anifeiliaid anwes
PEIDIWCH â’i roi gyda gwastraff bwyd. Gellir rhoi deunydd gwely anifeiliaid llysysyddol i mewn gyda gwastraff gardd
Deunydd Lloriau
Nid yw’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd ond gallwch fynd ag ef i lawr i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Deunydd pecynnu ffrwythau
Nid yw’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd ond mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr bwyntiau lle gallwch gael gwared arno
Deunydd ysgrifennu
Mae'r rhan fwyaf ohono ar ffurf papur neu gerdyn o ryw fath (rhowch o mewn bag glas). Ni ellir ailgylchu ffeiliau bwa lifer (gormod o gymysgedd o fetel a cherdyn)
Dillad
Rhowch y rhain mewn bag plastig a'u rhoi allan i'w casglu ochr yn ochr â'ch bagiau a'ch blychau. Dillad sych yn unig os gwelwch yn dda – ni allwn gymryd dillad gwlyb gan eu bod yn mynd i arogli'n gyflym iawn
Dillad Gwely
Dydyn ni ddim yn eu casglu ond mae rhai siopau elusen yn eu cymryd
Dodrefn
Os ydynt mewn cyflwr da, rhowch nhw i Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers. Peidiwch â'u gadael y tu allan i'r ganolfan - tipio anghyfreithlon yw hynny
Dodrefn gardd
Ewch â nhw ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Os gellir eu hailddefnyddio, rhowch nhw i siop y ganolfan ailgylchu
Draeniwr sinc (metel)
Bag coch
Draeniwr sinc (plastig)
Nid ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd ond gellir mynd â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Duvets
Ni ellir eu hailgylchu
DVDs a CDs
Ni ellir eu hailgylchu ond os ydynt yn dal i weithio, rhowch nhw i siop elusen neu'r Siop yn y ganolfan ailgylchu
Eitemau Seramig
Nid ydym yn casglu'r rhain. Os ydynt yn gyfan – rhowch nhw i siop elusen. Os ydynt wedi torri, rhowch nhw gyda’r sbwriel cyffredinol. PEIDIWCH â’u rhoi i mewn gyda gwydr
Eitemau swmpus o’r Cartref
Os ydynt yn ddigon da i’w hailddefnyddio, cysylltwch â Chanolfan Ailddefnyddio Wastesavers ar 01633 216 855. Os ydynt mewn cyflwr gwael, cysylltwch â gwasanaeth casglu gwastraff swmpus Cyngor Dinas Casnewydd
Eitemau trydanol bach
Bocs gwyrdd
Erosolau
Bag Coch
Esgidiau
Rhowch nhw mewn bag plastig a'u rhoi allan i'w casglu ochr yn ochr â bocsys a bagiau
Ffoil
ffoil coginio tenau dim ond os yw'n lân. Dylid rhoi hambyrddau ffoil trymach mewn bag coch (rinsiwch nhw os gwelwch yn dda)
Ffoil Alwminiwm
Bag coch (ffoil glân yn unig – dim bwyd wedi sticio arno)
Ffonau symudol
Bocs gwyrdd
Fframiau Zimmer
Roedd rhaid dod o hyd i rywbeth yn dechrau hefo "Z". Ewch â nhw i siop elusen neu ewch i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Glanhawyr llwch
Os ydynt yn gweithio, rhowch nhw i siop y ganolfan ailgylchu neu siop elusen arall. Os ydynt wedi torri, ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. DS: Mae'r rhain yn rhy fawr ar gyfer y bocs glas
Gliniaduron
Bocs gwyrdd os ydynt wedi torri. Cysylltwch â Chanolfan Ailddefnyddio Wastesavers os ydynt yn gweithio
Gludyddion a Gliw
Ni ellir eu hailgylchu
Gobenyddion
Ni ellir eu hailgylchu
Goruchuddion duvet
Dydyn ni ddim yn eu casglu ond mae rhai siopau elusen yn eu cymryd
Gwasarn (‘litter’) cathod
Nid ydym yn casglu gwasarn cathod. Peidiwch â'i roi i mewn gyda gwastraff bwyd.
Gwastraff Anifeiliaid
dydyn ni ddim yn casglu unrhyw fath o wastraff anifeiliaid. PEIDIWCH â’i roi i mewn gyda gwastraff bwyd. Mae rhai mathau o ddeunydd gwely anifeiliaid llysysyddol (neu ‘herbivore’) yn cael eu derbyn gyda gwastraff gardd y Cyngor
Gwastraff bwyd
Cadi cegin brown. Cymerir cig ac esgyrn yn ogystal â gwastraff llysiau. Defnyddiwch ein bagiau leinin bin bwyd arbennig YN UNIG – dim bagiau plastig. Mae bagiau ar gael o lyfrgelloedd a Chanolfan Ailddefnyddio Wastesavers
Gwastraff Clinigol
Ni ellir ei ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys cewynnau babanod ac oedolion, cynhyrchion misglwyf, rhwymynnau, chwistrellau ac ati
Gwastraff DIY/Adeiladwyr
Nid ydym yn casglu'r deunyddiau hyn. Gallwch fyd ag ychydig i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Mae angen cwmni gwastraff trwyddedig i gael gwared â gwastraff ar raddfa fawr – sieciwch a ydynt yn gymwys cyn eu llogi
Gwastraff Gardd
Compostio cartref sydd orau. Os nad oes gennych le, mae Cyngor Casnewydd yn rhedeg gwasanaeth casglu gwastraff gardd tymhorol
Gwefryddion (ffôn ac ati)
Bocs gwyrdd
Gwydr
Bocs Gwyrdd (Poteli a jariau yn unig). Pyrex, gwydr gwydn, a phob math o wydr dalen gyda’r gwastraff cyffredinol. Os oes gennych lot o wydr, (e.e. ffenestri), ewch â fo i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Haearnau
Blwch gwyrdd
Hambyrddau Bwyd Alwminiwm
Bag coch (rinsiwch nhw os gwelwch yn dda)
Hangyrs cotiau
Gall rhai metel i gyd fynd i mewn i’r bag coch. Gellir mynd â rhai metel a phlastig i'r Ganolfan Ailgylchu ar Ffordd y Dociau. Efallai y bydd siopau elusen yn falch o’u cael
HDPE- 2 (polyethylen dwysedd uchel)
sach coch ar gyfer eitemau llai (poteli ac ati). Ewch ag eitemau mwy fel teganau a chadeiriau gardd i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Os gellir ei ailddefnyddio – rhowch o i siop y Ganolfan Ailgylchu
Larymau Tân
Blwch gwyrdd
LDPE - 4 (polyethylen dwysedd isel)
Bagiau plastig, iociau sy’n dal chwech o duniau gyda’i gilydd. NID YDYM YN EU CASGLU. Mae gan y mwyafrif o archfarchnadoedd mawr fannau casglu ar eu cyfer
Llenni
dim modd eu hailgylchu yn anffodus. Mae rhai banciau dillad yn eu cymryd
Llestri
Os ydynt yn gyfan, rhowch nhw i siop elusen. Os ydynt wedi torri, ni ellir eu hailgylchu
Lluniau
ni ellir eu hailgylchu (gormod o gemegau gwahanol)
Llyfrau
Rhoddwch nhw i siopau elusen neu mae sgip penodol i lawr yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Matresi
Ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Y rhai gyda sbrings yw'r unig rai y gellir eu hailgylchu
Meddyginiaeth
Poteli gwydr – bocs gwyrdd. Poteli plastig – bag coch. Cerdyn – bag glas. Gorchuddion ar gyfer tabledi – yn anffodus, nid ydym yn eu casglu (nid oes modd gwahanu’r plastig oddi wrth y metel)
Oergelloedd a rhewgelloedd
Os ydynt mewn cyflwr gweithio da, cysylltwch â Chanolfan Ailddefnyddio Wastesavers. Os ydynt wedi torri, cysylltwch â'r Cyngor i'w casglu neu ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Offer pŵer
Bocs Gwyrdd neu os yw’n gweithio, rhowch o i Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers
Offer Rheoli o bell
Bocs gwyrdd
Offer trydanol (bach)
Os ydynt yn gweithio – rhowch nhw i siop elusen neu Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers. Os ydynt wedi torri – bocs gwyrdd. Sylwer os gwelwch yn dda: mae'n rhaid iddynt ffitio Y TU MEWN i’r bocs gwyrdd
Olew (coginio)
Ewch ag ef ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Olew (injan)
Ewch ag ef ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Olew coginio
Ewch ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Olew Injan
Nid yw’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd ond gallwch fynd ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Peidiwch byth â’i arllwys i lawr draen
Olew llysiau
Cadi bwyd (dim ond ychydig bach o olew domestig)
Paciau pothellog tabledi
ni allwn gymryd y rhain – ni fedrir gwahanu'r metel oddi wrth y plastig
Paent
Nid ydym yn ei gasglu o ymyl y ffordd ond gellir mynd ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Papur
Bag glas
Papur Lapio Anrhegion
Rhowch bapur yn y bag glas. (Nid oes angen tynnu tâp gludiog). Ni ellir ailgylchu deunydd lapio anrhegion o fath ffoil
Papur lapio Nadolig
Bag glas (ac eithrio'r papur lapio math ffoil metel)
Papur swyddfa
Bag glas
Papur wedi'i rwygo
Bag glas (rhowch o mewn bag plastig i'w atal rhag chwythu o gwmpas)
Papurau lapio bisgedi
Ni ellir eu hailgylchu
Papurau newydd
Bag glas
Pecynnau creision
Yn y ganolfan ailgylchu ar Ffordd y Dociau. Nid ydym yn eu casglu
Pecynnau grawnfwyd
Bag Glas. Gellir ailgylchu'r bag plastig mewnol ynghyd â bagiau plastig yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr
Peiriannau Tostio
Bocs gwyrdd
PET - 1 (Polyethylen terephthalate)
Bag coch
Plastig
Bag coch (dim bagiau plastig na ffilm blastig). Mae saith prif fath o blastig. Nid yw'r ffaith ei fod wedi'i restru yn y tabl isod yn golygu y gallwn ei gymryd. Fel rheol gyffredinol, nid ydym yn cymryd bagiau plastig a ffilm hyd yn oed os ydynt wedi'u gwneud o CDLl. Plastigau – canllaw byr i labeli
PlayStation/ x-box
Blwch gwyrdd
Podiau coffi
Dydyn ni ddim yn eu casglu. Ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu gwastraff domestig ar Ffordd y Dociau. Gormod o lawer o ddeunydd pecynnu
Polyethylen Dwysedd Isel
Na. Gweler LDPE uchod
Polystyren pacio
Ni ellir ei ailgylchu
Poptai microdon
Ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. Mae'r rhain yn rhy fawr ar gyfer y bocs glas
Post sothach
Bag glas
Poteli saws
Gwydr –bocs gwyrdd, plastig –bag coch
Poteli siampŵ / sebon cawod
os ydynt wedi eu gwneud o blastig – rhowch nhw yn y bag coch
Poteli: Gwydr
Bocs gwyrdd
Poteli: Plastig
Bag coch
Potiau a sosbenni
Bag coch
Potiau iogwrt
Bag coch
Potiau planhigion
Nid ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd ond gallwch fynd â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Powlenni golchi llestri
nid ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd, ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau - plastig caled
PP – 5 (Polypropylen)
Os yw ar ffurf ffilm (fel amlenni plastig neu sachets bwyd anifeiliaid anwes) ni allwn ei gymryd. Os yw ar ffurf fwy solet fel bocsys ffrwythau yna gellir ei roi mewn Bag Coch
Pren
nid yw’n cael ei gasglu o ymyl y ffordd, ewch â fo i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
PS – 6 (Polystyren)
Ni ellir ei ailgylchu
PVC
Ewch ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Radios
Bocs gwyrdd
Recordwyr fideo / Chwaraewyr DVD
Bocs gwyrdd
Rhwyd blastig (o amgylch ffrwythau)
Ni ellir ei ailgylchu
Setiau teledu
Os ydynt yn rhai sgrîn fflat sy’n gweithio’n iawn – rhowch nhw i Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers. Nid yw setiau teledu dwfn hŷn yn cael eu derbyn (ni fedrir eu gwerthu). Mae unrhyw setiau teledu yn cael eu categoreiddio fel gwastraff peryglus. Os ydynt wedi torri – ewch â nhw i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Silindrau Nwy ar gyfer Gwersylla (wedi eu defnyddio)
Ewch â'r rhain i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Soffas
Os gellir eu hailddefnyddio – ffoniwch Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers. Os ydynt wedi torri - trefnwch gasgliad gwastraff swmpus yma: https://www.newport.gov.uk/en/Waste-Recycling/Bulky-household-item-collection.aspx
Tapiau Fideo
Ni ellir eu hailgylchu
Tecellau
Bocs gwyrdd
Tecstilau
Dillad ac esgidiau YN UNIG – rhowch nhw mewn bag plastig i gadw'n sych a'u rhoi allan gyda bocsys a bagiau
Teganau
Os gellir eu hailddefnyddio, rhowch nhw i siop elusen neu Siop y ganolfan ailgylchu. Os ydyn nhw wedi eu torri, rhowch nhw gyda’r gwastraff cyffredinol – ewch â rhai mwy i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Teiars
Rydych chi'n talu am gael gwared â theiars pan fyddwch chi'n prynu teiar newydd. Dylai'r cyflenwr eu cymryd oddi arnoch
Tiwbiau creision
Bag coch
Tiwbiau fflwroleuol
Ewch i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau. NI ddylid eu rhoi i mewn gyda gwydr
Tiwbiau Papur Toiled
Bag glas
Topiau poteli
Bag coch (os yw’r top ar botel wydr, gadewch o ar y botel a’i ailgylchu gyda gwydr)
Trainers
Rhowch nhw mewn bag plastig i gadw'n sych a'u rhoi allan gyda bocsys a bagiau
Tudalennau Melyn
Bag glas
Tuniau
Bag Coch. (Golchwch nhw os gwelwch yn dda)
Tŵls
Rhowch nhw i’r ganolfan ailddefnyddio neu i’r siop yng nghanolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau
Tybiau Margarîn
Bag coch
Tyweli cegin
Ni ellir eu hailgylchu – rhy fudr
uPVC
Ewch ag ef i ganolfan ailgylchu'r Cyngor ar Ffordd y Dociau