Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Ble mae’r cyfan yn mynd

Ydych chi erioed wedi meddwl i ble mae eich deunyddiau ailgylchu yn mynd ar ôl cael eu casglu?

Ble mae'r cyfan yn mynd

Ble mae eich deunyddiau yn mynd

Cardbord

Mae cardbord yn cael ei anfon i Newport Recycling yn Swydd Amwythig sy'n ei anfon i ffatri yng Ngwlad Belg lle mae'n cael ei ddidoli i wahanol raddau o gardbord. Caiff hwn wedyn ei ailgylchu i greu eitemau cardbord newydd, o gartonau wy i focsys newydd, a hyd yn oed papur toiled.

Ailgylchu Casnewydd

Plastig

Anfonir poteli a phecynnau plastig i Jayplas yn Loughborough lle cânt eu golchi, eu didoli a'u graddio drwy ddefnyddio peiriannau uwch-dechnoleg, a'u troi wedyn yn belenni plastig i'w defnyddio i gynhyrchu pecynnau bwyd a chynnyrch plastig arall.

Jayplas

Dur

Fe'i hanfonir i EMR yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr lle caiff ei brosesu cyn ei werthu i'w ailbwrpasu, gyda'r rhan helaeth ohono'n dychwelyd i ddiwydiannau De Cymru.

EMR Group

Alwminiwm

Fe'i hanfonir i Novelis yn Warrington, sy'n ailgylchu'r alwminiwm i'w ddefnyddio yn y diwydiannau moduro a'r diwydiannau awyrofod, a hefyd i'w droi'n ôl yn ganiau alwminiwm.

Novelis

Gwydr

Anfonir gwydr i Recresco yng Nghwmbrân, lle caiff ei ddidoli yn ôl lliw drwy ddefnyddio didolwyr optegol a'i falu'n ddarnau mân. Defnyddir y darnau mân hyn wedyn i gynhyrchu poteli a jariau gwydr newydd, gan ddefnyddio llawer llai o ynni na phe bai'r gwydr yn cael eu cynhyrchu o silica newydd.

Recresco

Bwyd

Anfonir gwastraff bwyd i Biogen ym Mryn Pica, Aberdâr. Peiriant treulio anaerobig yw hwn sy'n troi'r gwastraff bwyd yn 'gawl' mewn tanciau dan sêl. Mae hyn yn diraddio'r gwastraff heb ocsigen gan ryddhau nwyon, sef methan yn bennaf, a ddefnyddir wedyn i greu ynni a gwres. Yr hyn sy'n weddill o'r broses yw gwrtaith llawn maetholion a ddefnyddir wedyn ar dir fferm yn lle gwrtaith diwydiannol.

Biogen

Dillad ac Esgidiau

Anfonir dillad ac esgidiau i JMP Wilcox, sydd wedi'i leoli yng nghanolbarth Lloegr. Caiff y dillad wedyn eu didoli a'u graddio, gan anfon 90% o'r dillad i Affrica, Asia a Dwyrain Ewrop. Mae'r 10% sy'n weddill o'r tecstilau hyn, a ystyrir yn anaddas i'w defnyddio, yn cael eu troi'n wlanenni sychu diwydiannol, yn glytiau ffloc neu'n ddeunydd ffelt cymysg yn y DU.

JMP Wilcox

Ailgylchu gwastraff y cartref

Yn chwilio am rywbeth arall?

Ailgylchu gwastraff y cartref

A-Y ailgylchu

Dysgu mwy

Ailgylchu gwastraff y cartref

Bocsys Newydd

Dysgu mwy

Ailgylchu gwastraff y cartref

Wedi colli eich casgliad ailgylchu?

Dysgu mwy