Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Ein Cefndir

Rydym yn credu mewn economi gylchol, ac yng grym ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn gweithredu'n gadarnhaol yn ein cymuned.

Ein Cefndir

Ein Stori

Ychydig am Wastesavers

Elusen a busnes yw Wastesavers sy’n cynnal nifer o wasanaethau i’r gymuned yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwasanaethau ailgylchu i Gasnewydd
  • 10 o siopau ailddefnyddio ar draws De-ddwyrain Cymru
  • Adran ailgylchu TG
  • Llyfrgell Cewynnau
  • 2 x gaffi trwsio
  • Llyfrgell pethau
  • Ystafell addysg i addysgu plant ynghylch yr economi gylchol
  • Addysg amgen PEAK

Rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio gwastraff fel adnodd; ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i ddefnyddio i hyfforddi, addysgu a chyflogi. Rydym wedi bod yn gweithredu ers bron i ddeugain mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi ailddefnyddio ac ailgylchu dros 315,000 o dunelli o ‘wastraff’. Mae hynny yr un faint â 17,500 o fysus deulawr!

Gweledigaeth

Creu dyfodol cynaliadwy lle mae lleihau ac ailddefnyddio gwastraff yn rhywbeth cyffredin

Bod yr hyn na ellir ei leihau na’i ailddefnyddio yn cael ei ailgylchu drwy ddulliau sy’n cadw gwerth y deunydd. Rydym yn defnyddio’r broses hon i greu cyfleoedd, i leihau tlodi, i addysgu ac i gefnogi ein cymunedau. Ymunwch â ni wrth inni rymuso pobl, trawsnewid ffyrdd o feddwl a chreu dyfodol sy’n gynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Yr Amgylchedd

Rydym yn credu mewn economi gylchol, ac yng grym ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn gweithredu’n gadarnhaol yn ein cymuned.

Y Gymuned

Rydym yn credu mewn cefnogi ein cymuned, bod yn gynhwysol a rhoi cymorth lle a phryd y bydd angen.

Ein Pobl

Credwn y gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein staff, ein gwirfoddolwyr, a’n gweithwyr ar leoliad. Byddwn yn cefnogi eu llesiant, yn rhoi cyfleoedd iddynt, ac yn creu ymdeimlad o berthyn.

 

Ein Cefndir

Mwy am Wastesavers

Ein Stori a'n Hanes

Mae Wastesavers wedi bod yn gweithredu ers bron i ddeugain mlynedd, ar ôl cael ei sefydlu gan grŵp o amgylcheddwyr o'r un anian.

Dysgu mwy

Ynglŷn â'n Nodau

Mae'r rhain yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i ni a'n helusen.

Dysgu mwy

Cwrdd â'r Tîm

Rydym yn ffodus iawn i weithio gydag aelodau staff hynod dalentog ac ymroddgar - nhw yw'r bobl sy'n creu Wastesavers.

Dysgu mwy