Ein Stori
Nodau ac Amcanion y Cwmni
Dechreuodd Wastesavers ei oes yn 1986 fel mudiad gwirfoddol bach. Ei brif nod oedd codi ymwybyddiaeth drwy addysg am ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau. Ers hynny mae’r mudiad wedi tyfu’n sylweddol i fod yn grŵp ailgylchu trydydd sector blaenllaw Cymru. Heddiw mae’r grŵp yn cyflogi 140 o bobl, yn cefnogi dros 100 o wirfoddolwyr, ac mae ganddo drosiant blynyddol o £6M.
Enw grŵp yw Wastesavers, sy’n cynnwys dau endid cyfreithiol ar wahân, Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers Cyfyngedig (YEWC) a sefydlwyd yn 1995 ac Ailgylchu Wastesavers Cyfyngedig (AWC) a sefydlwyd yn 1996.
Nodau
Nodau Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers
Nod Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers ac Ailgylchu Wastesavers Cyfyngedig yw defnyddio gwastraff fel adnodd i greu newid yn ein cymuned. Mae'n gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ganolog i'r economi gylchol; annog lleihau gwastraff drwy ailddefnyddio, ac ailgylchu gwastraff na ellir ei ailddefnyddio drwy ddefnyddio dull sy'n cadw gwerth y deunydd hwnnw.
Gwrthrychau
Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers Cyfyngedig (YEWC)
Ystadegau
Ystadegau Wastesavers
Ein Haddewid Corfforaethol
Mae Wastesavers yn cael ei gynnal gan fwrdd o gyfarwyddwyr-ymddiriedolwyr gwirfoddol.
Maen nhw'n rhoi arweiniad a her i'r Prif Weithredwr a'i uwch dîm rheoli. Maen nhw'n sicrhau bod yr elusen yn cadw at ei nodau a'i hamcanion ac nad yw'n mynd ar y trywydd anghywir ac yn gwneud pethau na ddylai fod yn gwneud. Mae gan yr ymddiriedolwyr-gyfarwyddwyr gyfrifoldeb i fudd-ddeiliaid yr elusen (sef chi, y cyhoedd, y cynghorau y mae’n dal contractau â nhw, busnesau sy’n ailgylchu gyda ni, ysgolion, cynghorwyr a llawer mwy!) i adrodd ar yr hyn y mae’r grŵp yn ei wneud bob blwyddyn. I'r diben hwnnw, maen nhw'n llunio adroddiad blynyddol sy'n dathlu cyflawniadau'r grŵp.
Ailgylchu