News & Insights
Aberdâr, dyma’ch cyflwyno i’r “Llyfrgell o bethau”
Mae Wastesavers Charitable Trust Ltd. sydd ar flaen y gad pan ddaw i ailddefnyddio a thrwsio yng Nghymru, a Benthyg Cymru yn dod ynghyd yn Aberdâr i gyfuno eu harbenigedd mewn ailddefnyddio a benthyg am y tro cyntaf.
Gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru yn ceisio byw yn fwy cynaliadwy, gan hefyd arbed arian, bydd hyn yn rhoi cyfle i drigolion Aberdâr roi cynnig ar roi benthyg pethau ynghyd a chael bargeinion yn Sied Aberdâr.
Mae Benthyg Cymru wedi bod yn cefnogi cymunedau i sefydlu rhwydwaith o ‘Lyfrgelloedd o Bethau’ – lleoedd ble gall pobl roddi pethau nad ydynt eu hangen a rhoi benthyg pethau maent eu hangen. Mae brwdfrydedd dros y syniad hwn wedi cynyddu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf wrth i bobl edrych am ffyrdd rhwydd o fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy ac arbed arian yn y broses.
Gyda 20 lleoliad nawr ar agor ar hyd a lled y wlad, a mwy yn yr arfaeth, mae Llyfrgell Pethau Cymru wedi cofnodi 13,000 o fenthyciadau ers Ebrill 2021, gan arbed oddeutu £300k a 160,000 i gymunedau yn y broses. Mae eitemau poblogaidd yn cynnwys peiriannau glanhau pwerus, pebyll, peiriannau glanhau carpedi ac offer garddio.
![](https://wastesavers.co.uk/cy/wp-content/uploads/sites/2/2024/10/327545702_1229616501323462_7300808599642260771_n.jpg)