Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

Ailgylchu

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

News & Insights

Mam leol yn rhoi cynnig ar gewynnau amldro - Astudiaeth achos

Mae Nicola yn fam i ddau o blant ifanc, merch 4 oed a mab 1 oed. Ni wnaeth Nicola ddechrau defnyddio cewynnau brethyn tan oedd ei ieuengaf yn blentyn ifanc a hyd yn oed wedyn, dim ond hanner yr amser yr oedd yn eu defnyddio. Mae’n rhannu sut y gwnaeth hi’r naid i gewynnau brethyn gyda phlentyn ifanc a sut maent yn ffitio yn ei bywyd.

Fe wnaeth Nicola roi cynnig ar ddefnyddio cewynnau brethyn pan yr oedd hi’n dysgu’i phlentyn hynaf i ddefnyddio’r ty bach ond ni chafodd fawr lwyddiant gyda’r math oedd ganddi gan fod hyn yn ystod y cyfnodau clo, gan olygu nad oedd modd iddi gael cefnogaeth, felly fe wnaeth hi roi’r gorau i’w defnyddio. Pan ddaeth ei phlentyn ieuengaf, roedd hi’n agored i roi cynnig arall arni ond roedd bywyd gyda dau o blant yn brysur, felly ni lwyddodd i gael y cyfle.  Teimlodd Nicola hefyd fod llawer o’r wybodaeth ar-lein yn ei llethu. Roedd Nicola yn ymwybodol iawn o effaith negyddol cewynnau tafladwy ar yr amgylchedd, felly defnyddiodd frand oedd yn dda i’r amgylchedd ond roedd yn dal i deimlo y gallai wneud mwy.