Estyn ein Hanes
Dechreuodd ein prosiectau ehangu, gan gynnal casgliadau ochr ffordd rheolaidd ar gyfer papur, caniau, tuniau a gwydr, ac yn 1998, gwnaethom lwyddo i ailgylchu 480 tunnell – cyflawniad aruthrol i elusen ailgylchu fechan! Heddiw rydym yn cynnig ystod o fentrau ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff, ac yn 2024 aeth 22,000 o dunelli o ddeunyddiau ailgylchadwy drwy ein canolfan ailgylchu. Mae’r hyn a ddechreuodd unwaith fel ymdrech gymharol fach wedi tyfu’n fwyfwy cyflym, gan arwain y ffordd gyda’r ffocws cynyddol ar yr economi gylchol.