Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Ailgylchu gartref

Rydym yn darparu'r gwasanaeth ailgylchu o garreg y drws ar gyfer Casnewydd. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn eich dinas.

Ailgylchu gartref

Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae Wastesavers yn darparu gwasanaeth ailgylchu o ymyl y ffordd i Gyngor Dinas Casnewydd

Rydym wedi gwneud hynny ers canol y 90au. Rydym yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn bagiau a bocsys o bob un o’r 72,000 o dai a fflatiau bob wythnos.

Yma cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ailgylchu rydyn ni’n eu cynnig i drigolion Casnewydd, sut i gymryd rhan a beth allwn ni ei ddarparu i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Rydym wedi ymrwymo i helpu ein trigolion i ailgylchu cymaint ag y gallant, ac mor rwydd ag sy’n bosib.

Ynglŷn ag Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Sut mae ailgylchu

Bydd tai yng Nghasnewydd yn derbyn gwasanaeth casglu wythnosol ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy. Mae hynny’n golygu bod yr holl wastraff bwyd, papur, cardbord, plastig, caniau, gwydr, tecstilau, tetra pak ac eitemau trydanol bach yn cael eu casglu bob wythnos o garreg drws pob eiddo.

Dysgu mwy

Ailgylchu

Beth ydyn ni'n ei ddarparu?

Casgliadau

Rydym yn casglu yn wythnosol. Gwiriwch eich diwrnod casglu. Diwrnodiau casglu

Bocsys Newydd

Angen mwy o focsys, cadis, bagiau neu leiners?

Ailgylchu yn y Cartref

Pa Gynhwysydd i'w Ddefnyddio

SD

Sylfaen driphlyg

Mae Wastesavers yn gweithio’n unol â Sylfaen Driphlyg; Mae hynny’n golygu bod yr amgylchedd, pobl a chyllid i gyd o bwysigrwydd cyfartal inni. Ym mhopeth a wnawn rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd (wedi’r cyfan, dyna’r rheswm pam ein bod yn gwneud yr hyn a wnawn!). Felly hefyd ein pobl – ein staff a’n gwirfoddolwyr, ein cymuned a’n rhanddeiliaid. Rydym yn gwneud hynny i gyd ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn gwneud digon o arian i dalu cyflogau, sicrhau y gallwn roi tanwydd yn ein tryciau a chynnal ein ffatri ailgylchu.

Y llynedd daethom yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol, enillodd ein helusen ei nod ansawdd ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ a chymerwyd camau pellach gennym i wneud ein cwmni yn lle gwych i staff weithio. Gwnaethom y cyfan ar yr un pryd â gwyro 22,000 o dunelli o ddeunydd o safleoedd tirlenwi neu losgyddion (tua 13,750 o geir teulu neu tua 4,075 o eliffantod Affricanaidd).

Ffeithiau difyr

Oeddech chi'n gwybod?

Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Rhagor o wybodaeth am ailgylchu gwastraff y cartref yn Wastesavers

Fflatiau ac Ailgylchu Cymunedol

Rydym yn cynnig cyfleusterau ailgylchu cymunedol i drigolion sy'n byw mewn fflatiau. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Dysgu mwy

Casgliadau a Gollwyd

A gollwyd eich casgliad ailgylchu? Darganfyddwch beth i'w wneud nesaf.

Dysgu mwy

Ble mae'n mynd

Darganfyddwch ble mae eich deunyddiau i'w hailgylchu yn mynd.

Dysgu mwy