Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Casgliadau TG

Ydych chi'n fusnes sydd ag offer TG nad oes eu hangen mwyach? Dysgwch fwy am ein rhaglen Ailddefnyddio TG a sut mae'n cefnogi eich cymuned leol.

Eich Siop Ailddefnyddio Leol

Am drefnu casgliad TG?

Os oes gennych chi unrhyw offer TG nad ydych chi’n eu defnyddio mwyach, gallwn eu derbyn yn unrhyw un o’n siopau, neu os oes gennych chi lawer iawn o eitemau gallwn drefnu gwasanaeth casglu rhad ac am ddim.

Eich Man Casglu Lleol

Cael hyd i fan casglu TG

[ASL_STORELOCATOR default_lat="51.570671" default_lng="-2.9816033" zoom="12" category=23

Economi Gylchol

Beth allwn ni ei gasglu?

Byddwn yn casglu unrhyw offer TG, fel gliniaduron, llechi, ffonau android/clyfar, cyfrifiaduron desg, sganwyr, llungopïwyr a’r rhan fwyaf o offer swyddfa, ynghyd â nwyddau traul fel ceblau a gwefrwyr.

I gyfrannu llechi, ffonau neu ddyfeisiau clyfar. Bydd angen tynnu cyfrifon iCloud, Google a Samsung oddi ar y dyfeisiau cyn eu cyfrannu, neu ni fyddwn yn gallu eu hadnewyddu a’u hailwerthu. Gofynnir ichi dynnu unrhyw gardiau storio allanol a chardiau sim sydd yn y dyfeisiau. Ceisiwch gynnwys yr holl geblau a’r gwefrwyr wrth gyfrannu dyfeisiau – byddwn yn eu gwerthfawrogi’n fawr.

Diogelu Data

Mae eich data yn ddiogel

Mae gennym drwydded lawn i ymdrin â gwastraff TG peryglus ac nad yw’n beryglus o dan ofynion Dyletswydd Gofal Deddf Diogelu’r Amgylchedd.

Caiff yr holl ddata eu dileu hyd at safon InfoSec 5 Llywodraeth EM, drwy ddefnyddio meddalwedd White Canyon Wipe Drive Pro; neu eu malu’n ffisegol drwy ddefnyddio ein peiriant malu, Intimus 1000 Crusher.

Bydd staff a gwirfoddolwyr sydd wedi derbyn lefel uchel o hyfforddiant a gwiriadau diogelwch yn ymdrin â’r gwaith Dinistrio Data.

Gallwn roi adroddiad llawn ichi ym mhob cam o’r broses, gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â deddfwriaeth gyfredol.

Cynhwysiant digidol

Ein Buddion Cynhwysiant Digidol a Chymdeithasol

Byddwn yn trwsio unrhyw liniaduron, cyfrifiaduron desg, a dyfeisiau Apple am bris gostyngol er mwyn helpu aelodau’r gymuned i barhau i gael eu cynnwys yn ddigidol, ac ymestyn oes eu hoffer TG.

Byddwn yn tynnu’r offer yn ddarnau ac yn defnyddio’r rhannau i adnewyddu dyfeisiau technolegol eraill. Bydd unrhyw rannau na allwn eu defnyddio wedyn yn cael eu gwahanu a’u trosglwyddo i’w hailgylchu.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, rydym wedi cyfrannu dros 600 o eitemau TG i elusennau a sefydliadau cymunedol lleol eraill. Yn 2023, roedd hyn yn cynnwys rhoddion TG ar ffurf gliniaduron, cyfrifiaduron desg, ffonau symudol, gweinyddion a chyfarpar rhwydweithio – dros 40 o eitemau ac iddynt gyfanswm gwerth ailwerthu  o £2240. Mae gennym hefyd gyflenwad o liniaduron wedi’u neilltuo ar gyfer aelwydydd incwm isel, sy’n cael eu gwerthu am gost is na’r prisiau ar lawr y siop.

Ailddefnyddio

Ydych chi'n fusnes sydd ag offer TG nad oes eu hangen mwyach?

Dysgwch fwy am ein rhaglen Ailddefnyddio TG a sut mae'n cefnogi eich cymuned leol.

Dysgu mwy
Image for Ydych chi'n fusnes sydd ag offer TG nad oes eu hangen mwyach?