Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Llyfrgell Cewynnau

Awydd rhoi'r gorau i ddefnyddio cewynnau tafladwy a dysgu mwy am gewynnau y gellir eu hailddefnyddio?

Llyfrgell Cewynnau

Beth yw Llyfrgell Cewynnau

Mae llyfrgell cewynnau yn gweithio yn union fel llyfrgell arferol, ond yn hytrach na benthyca llyfrau, gall y defnyddiwr fenthyg cewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Mae pobl hefyd yn galw’r rhain yn “llyfrgelloedd cewynnau ailddefnyddadwy, neu’n “llyfrgelloedd cewynnau defnydd”. Mae llyfrgelloedd cewynnau yn wych am eu bod yn galluogi teuluoedd sy’n ystyried defnyddio cewynnau ailddefnyddadwy i wneud hynny’n ddi-gost.

Llyfrgell Cewynnau

Llyfrgell Cewynnau

Hanes y Prosiect

Oeddech chi’n gwybod ein bod yn taflu tua 140 miliwn o glytiau tafladwy yng Nghymru bob blwyddyn? Maen nhw’n creu swm aruthrol o wastraff a phroblem amgylcheddol.

Oherwydd hynny, sefydlodd Wastesavers Lyfrgell Cewynnau yn 2022 er mwyn helpu i leihau’r broblem hon yn Ne Cymru. Dyma’r unig sefydliad sy’n cyflogi Cydgysylltydd Llyfrgell Cewynnau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’r sefydliad bellach yn cyllido’r prosiect yn annibynnol.

Yn llyfrgell cewynnau Wastesavers rydym yn helpu teuluoedd sydd â diddordeb mewn defnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yn lle cewynnau untro i leihau eu gwastraff a’r swm y maent yn ei wario ar gewynnau untro.

Ein Cyrhaeddiad

Rhoddion

Cewynnau defnydd am ddim i deuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw.

Gyda chost cewynnau a weips tafladwy yn parhau i fod yn uchel, gallwn hefyd ddarparu pecyn am ddim o gewynnau defnydd a weips ailddefnyddadwy i unrhyw deuluoedd sydd angen cymorth, a bydd hynny’n eu helpu i ostwng y gost honno.

Ar yr amod bod gan y teuluoedd fynediad at beiriant golchi, powdr golchi a man sychu, gallant ddefnyddio cewynnau defnydd. Gallwn hefyd roi cyngor a dangos wyneb yn wyneb sut i ddefnyddio’r cewynnau.

Gall teuluoedd wedyn ddefnyddio’r cewynnau hyn gyhyd ag sydd angen. Yr unig beth a ofynnir yw eu bod yn eu dychwelyd atom pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben. Does dim rhaid i’r teuluoedd gael eu hatgyfeirio, na darparu unrhyw wybodaeth ariannol, dim ond cysylltu a gofyn am becyn cymunedol.

Mae’r holl gewynnau cymunedol rhad ac am ddim hyn yn gewynnau a gyfrannwyd gan deuluoedd yn yr ardal, ar ôl iddynt orffen eu defnyddio.  Byddwn bob amser yn croesawu cewynnau a weips defnydd sydd mewn cyflwr digon da i’w defnyddio. Os ydych chi’n meddwl cyfrannu cewynnau, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi gwybod ichi lle sydd orau i’w gadael, neu gallwch eu gadael yn unrhyw un o siopau Wastesavers.

I ofyn am becyn rhad ac am ddim o gewynnau defnydd cymunedol, cysylltwch naill ai drwy e-bost neu drwy dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol.

Allgymorth

Gwasanaethau a ddarperir gan y llyfrgell cewynnau:

Pecynnau profi o gewynnau defnydd y gellir eu benthyca am fis, gan roi cyfle i deuluoedd roi cynnig ar wahanol fathau a brandiau o gewynnau defnydd, i weld beth allai weithio i’w teulu. Rydym yn codi ffi o £10 am y gwasanaeth llogi hwn, ynghyd â blaendal ad-daladwy o £25.

    cards  

Powered by paypal

Llyfrgell Cewynnau

Lleoliadau Llyfrgelloedd Cewynnau

Loading...
Number Of Shops: 0 PRINT

Store Direction

GET DIRECTIONS

Use my location to find the closest Service Provider near me

Description