Marchnad Pont-y-pŵl, Torfaen
Sefydlwyd Caffi Trwsio Torfaen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r caffi wedi’i leoli ym Marchnad Pont-y-pŵl ac ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau o 9.30am tan 12.30pm.
Oes gennych chi rywbeth sydd angen ei drwsio? Dysgwch fwy am ein caffis trwsio.
Beth yw caffi trwsio
Ym mhob Caffi Trwsio, bydd llawer o aelodau o’r cyhoedd yn dod ag eitemau sydd wedi difrodi neu dorri i’w trwsio/i gael cyngor. Fel arfer mae’r eitemau’n cynnwys nwyddau trydanol, technoleg, ornaments, beiciau er mwyn cael arweiniad a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt, gemwaith a llawer mwy! Bydd staff a gwirfoddolwyr y Caffi Trwsio wedyn yn ceisio trwsio’r eitemau. Anogir yr ymwelwyr i ymuno a dysgu sut i drwsio eu heitem, fel y gallant roi cynnig ar waith trwsio tebyg yn y dyfodol.
Caffis trwsio
Sefydlwyd Caffi Trwsio Torfaen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r caffi wedi’i leoli ym Marchnad Pont-y-pŵl ac ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau o 9.30am tan 12.30pm.
Mae Caffi Trwsio Maendy wedi’i leoli i fyny’r grisiau yn y Ganolfan Ailddefnyddio ym Maendy, Casnewydd. Mae’r caffi ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau o 1.15pm tan 4pm.
Ein caffis trwsio
Mae’r Caffis Trwsio wedi cael eu sefydlu er mwyn helpu i atal pobl rhag taflu eitemau os oes modd eu trwsio, ac mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’r newid hinsawdd.
Byddwn yn gwneud ein gorau i drwsio unrhyw eitem sydd wedi torri yn rhad ac am ddim. (Bydd angen i’r perchennog ddarparu a thalu am unrhyw rannau newydd). Dim ond o’r lleoliadau hyn yr ydym yn gweithio, felly os yw’n rhy fawr i un person ei gario, mae’n rhy fawr i ni ei drwsio.
Oherwydd llwyddiant y prosiect hwn, efallai y bydd yn rhaid ichi aros nes i rywun gael golwg ar eich eitem ar ôl ei gollwng, ond byddwn yn gwneud ein gorau i edrych arno cyn gynted ag sy’n bosibl.
Ar ein blwyddyn gyntaf o drwsio eitemau, roedd gennym gyfradd llwyddo o 92% ym Mhont-y-pŵl, a chyfradd llwyddo o 85% ym Maendy, wrth drwsio eitemau a gyflwynwyd inni wedi torri.
Am resymau’n ymwneud â diogelwch ac yswiriant, ni allwn dderbyn microdonnau na chyfarpar gardd sy’n rhedeg ar betrol. Gwiriwch os nad ydych yn siŵr 07824 991667.