Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Beth yw Ailddefnyddio

Ailddefnyddio yw’r weithred o ddefnyddio rhywbeth dro ar ôl tro....Cewch ddysgu mwy am ein prosiectau Ailddefnyddio yma.

Beth yw ailddefnyddio?

Mae’r arfer o Ailddefnyddio o fudd enfawr i’n planed a’n cymdeithas.

Drwy ailddefnyddio cynnyrch ac eitemau rydym yn lleihau ein treuliant neu ein defnydd o ddeunyddiau crai, sydd yn ei dro yn lleihau allyriadau carbon.

Gall hefyd leihau’n sylweddol y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ac i’w losgi.

Fel elusen rydym hefyd yn sicrhau bod eitemau’n cael eu darparu i rai sydd angen hanfodion y cartref, ac er mwyn helpu i leihau tlodi dodrefn.

Hierarchaeth Gwastraff

Mae ailddefnyddio yn uchel i fyny'r hierarchaeth gwastraff

System raddio syml yw’r hierarchaeth gwastraff, sy’n trefnu’r gwahanol opsiynau i reoli gwastraff yn ôl yr hyn sydd orau i’r amgylchedd. Y dewis gorau yw atal gwastraff, a’r dewis gwaethaf yw gwaredu i safleoedd tirlenwi.

Dysgu mwy

Beth yw ailddefnyddio

Osgoi Tirlenwi

In 2022/23 our Reuse operations diverted over 1000 tonnes from landfill, made up from over 500,000 items. Here is our for 2023/24 so far based on items diverted:

Economi Gylchol

Deall yr Economi Gylchol

Bydd ailddefnyddio hefyd yn gwneud cyfraniad mawr i’r Economi Gylchol. Term cymharol newydd yw hwn y gellir ei ddisgrifio yng nghyd-destun Ailddefnyddio fel ‘Parhau i ddefnyddio cynnydd gyhyd ag y bo modd, drwy drwsio, ailgylchu ac ailddylunio – er mwyn gallu eu defnyddio droeon.’ ac, ‘Ar ddiwedd oes cynnyrch, bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w greu yn cael eu cadw yn yr economi a’u hailddefnyddio lle bynnag y bo modd’, ee, ffabrig wedi’i greu o blastig wedi’i ailgylchu.

Er mwyn creu Economi Gylchol dynamig a chadarn mae’n rhaid wrth ddull cydweithredol, ac mae Wastesavers yn partneru ag amryw o sefydliadau er mwyn helpu’r sector i ffynnu:

https://www.benthyg-cymru.org/

https://growingspace.org.uk/

https://reuse-network.org.uk/

https://repaircafewales.org/

https://www.maindee.org/

Yr Effaith ar yr Hinsawdd

Ein Hystadegau ar gyfer 2023/2024 o ran yr Effaith ar yr Hinsawdd

Cael hyd i'ch canolfan neu eich siop ailddefnyddio leol

Rydym yn gweithio ar draws De-ddwyrain Cymru. Cael hyd i'ch Siop Ailddefnyddio agosaf yma.

Dysgu mwy
Image for Cael hyd i'ch canolfan neu eich siop ailddefnyddio leol