Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Eich Siop Ailddefnyddio Leol

Rydym yn gweithio ar draws De-ddwyrain Cymru. Cael hyd i'ch Siop Ailddefnyddio agosaf yma.

Eich Siop Ailddefnyddio Leol

Eisiau cyfrannu eitemau diangen inni?

Mae Wastesavers yn cynnal 10 Siop Ailddefnyddio ar draws De Cymru.

Gallwch gyfrannu eitemau diangen y gellir eu hailddefnyddio yn unrhyw un o’r siopau hyn. Mae ein Canolfan Ailddefnyddio yng Nghasnewydd a’n siop Bywyd Newydd ym Mhentre-bach, Merthyr Tudful, hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu a danfon ar gyfer eitemau mwy. Cysylltwch â’r siop yn uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Eich siop ailddefnyddio leol

Cael hyd i'ch canolfan leol

[ASL_STORELOCATOR default_lat="51.570671" default_lng="-2.9816033" zoom="12" category=18

Yr hyn y gallwn ei dderbyn

Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o eitemau y gellir eu hailddefnyddio ac nad oes angen eu trwsio yn ein siopau, o ddodrefn i eitemau trydanol, i ffigiarins a llawer mwy! I gydymffurfio â safonau masnach rhaid i rai eitemau fodloni meini prawf penodol.

Dyma’r prif rai:

  • Mae’n rhaid cael nod CE neu UKCA ar bob tegan neu eitem drydanol
  • Rhaid cael label tân yn sownd ar bob dodrefnyn meddal
  • Rhaid cael nod barcud BSI ar unrhyw gabinet gwydr

Yr hyn na allwn ei dderbyn

Mae rhai eitemau na allwn eu derbyn oherwydd diogelwch, hylendid a safonau masnach.

Dyma’r prif rai:

  • Cadeiriau gwthio a phramiau
  • Helmedau (beic modur a beic)
  • Seddi ceir plant
  • Matresi

Canllawiau Asesu

Dyma'r eitemau a gaiff eu rheoleiddio i'w hailddefnyddio:

Items must be in good, reusable condition, devoid of damage, stains, mold, dirt, or sun fading. They should have all parts intact, fully functional and free of faults. General wear and tear is acceptable as long as the item remains safe for sale and does not pose any hazards.

Canllawiau asesu

Labeli Tân

Fel manwerthwr, rydym yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau (Diogelwch) (Tân) Dodrefn a Defnyddiau 1988 (diwygiwyd yn 1989 ac 1993).

Mae’r rhain yn berthnasol i:

  • Bob math o seddau wedi’u clustogi, gan gynnwys cadeiriau, soffas, stolion wedi’u clustogi a chistiau otoman, dodrefn plant,
  • Stolion traed, gwelyau soffa a nwyddau eraill y gellir eu trosi, sachau eistedd a chlustogau llawr
  • Dodrefn llofft babi/plentyn ac eitemau wedi’u clustogi sydd wedi’u dylunio i gynnwys babi neu blentyn bach
  • Dodrefn wedi’u clustogi i’r cartref, a gyflenwir ar ffurf pecyn i’w hunanosod
  • Dodrefn ail-law
  • Pennau gwely, byrddau traed wedi’u clustogi, a rheiliau ochr gwely

Canllawiau asesu

Canhwyllau

Ni ddylid gwerthu canhwyllau heb rybuddion arnynt ynghylch sut i’w defnyddio, fel y label a ddangosir yma.

Canllawiau asesu

Gwelyau Bync a Chotiau

Mae rheoliadau yn gwahardd cyflenwi gwelyau bync neu gotiau a allai achosi i blentyn gael ei anafu neu ei ladd, yn sgil mynd yn sownd ynddynt.

Ni chaiff gwely bync gynnwys unrhyw:

  • fwlch yn sylfaen y gwely sydd yn fwy na 75mm (tua 3”)
  • bwlch yn unrhyw ran arall o’r gwely sy’n llai na 60mm (tua 2.5”) neu’n fwy na 75mm

Canllawiau asesu

Gwydr Diogelwch

Mae llawer o ddodrefn yn cynnwys gwydr, er enghraifft byrddau, trolïau, drychau ac unedau gyda drysau neu silffoedd gwydr. Yn dibynnu ar faint y gwydr a’r modd y’i cynhelir o fewn y dodrefnyn, rhaid i’r gwydr fod yn ddigon trwchus ac o fath arbennig (gwydr diogelwch wedi’i gryfhau neu ei lamineiddio) i sicrhau y gellir defnyddio’r eitem yn ddiogel, ac i leihau unrhyw anaf os ceir damwain.

Mae’r gofynion yn fanwl, ac wedi’u nodi yn y safonau diogelwch canlynol:-

  • Byrddau a throlïau – BS 7376 :1990
  • Mathau eraill o ddodrefn sy’n cynnwys gwydr – BS 7449 : 1991

Rhodd Cymorth

Eisiau gwneud cyfraniad drwy Rodd Cymorth?

Cynllun yw Rhodd Cymorth sydd ar gael i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol. Mae’n golygu y gallant hawlio arian ychwanegol gan CaThEF.

Gall yr elusen neu’r Clwb hawlio 25c yn ychwanegol am bob £1 rydych chi’n ei chyfrannu. Mae hynny ar yr amod eich bod wedi talu’r gyfradd dreth safonol, a’ch bod yn gwneud y cyfraniad o’ch arian eich hun. Mae hynny’n golygu y gall Rhodd Cymorth ychwanegu 25% at werth eich rhodd, fel y gallwch roi hyd yn oed mwy o arian i achosion sy’n agos at eich calon.

Mae Rhodd Cymorth yn bwysig i elusennau, ac yn golygu bod miliynau o bunnoedd ychwanegol yn mynd i’r sector elusennol. Bob tro y bydd trethdalwr cymwys yn cyfrannu ac yn anghofio rhoi tic yn y bocs Rhodd Cymorth, bydd yr elusen yn colli arian.

Os ydych chi’n drethdalwr gallwch gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth yn ein siopau, a dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud hynny.

Ailddefnyddio

Gwybodaeth am ein caffis trwsio

Oes gennych chi rywbeth sydd angen ei drwsio? Dysgwch fwy am ein caffis trwsio.

Dysgu mwy
Image for Gwybodaeth am ein caffis trwsio