Yr hyn y gallwn ei dderbyn
Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o eitemau y gellir eu hailddefnyddio ac nad oes angen eu trwsio yn ein siopau, o ddodrefn i eitemau trydanol, i ffigiarins a llawer mwy! I gydymffurfio â safonau masnach rhaid i rai eitemau fodloni meini prawf penodol.
Dyma’r prif rai:
- Mae’n rhaid cael nod CE neu UKCA ar bob tegan neu eitem drydanol
- Rhaid cael label tân yn sownd ar bob dodrefnyn meddal
- Rhaid cael nod barcud BSI ar unrhyw gabinet gwydr