Oeddech chi’n gwybod ein bod yn taflu tua 140 miliwn o glytiau tafladwy yng Nghymru bob blwyddyn? Maen nhw’n creu swm aruthrol o wastraff a phroblem amgylcheddol.
Oherwydd hynny, sefydlodd Wastesavers Lyfrgell Cewynnau yn 2022 er mwyn helpu i leihau’r broblem hon yn Ne Cymru. Dyma’r unig sefydliad sy’n cyflogi Cydgysylltydd Llyfrgell Cewynnau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’r sefydliad bellach yn cyllido’r prosiect yn annibynnol.