Ailgylchu: 

Llyfrgell Cewynnau Casnewydd – Astudiaeth Achos

DYSGU MWY
bulletin dot

Newyddion pwysig: 

Ailddefnyddio a benthyg yn dod ynghyd yn Aberdâr

DYSGU MWY

Ein Stori a’n Hanes

Mae Wastesavers wedi bod yn.....amgylcheddwyr. Dysgwch fwy am ein stori

Ein Hanes

Ein Hanes

Dechreuon ni yn 1985 fel sefydliad bach Cyfeillion y Ddaear a oedd yn canolbwyntio ar leihau gwastraff ac ar ‘achub y blaned’. Roedd ein cadeirydd David Mayer yn un o’n haelodau sylfaenu, a bu’n gweithio’n galed i eiriol dros fyd sy’n gwerthfawrogi ei adnoddau, gan weld potensial yn yr hyn y gallai eraill ei daflu i ffwrdd. Yn gynnar yn y 90au, daethom yn fwy rhagweithiol wrth lansio ein prosiectau ailddefnyddio dodrefn, a dechreuwyd casglu hen bapurau newydd i’w hailgylchu yn syth oddi ar garreg y drws. Buom wedyn yn didoli’r papurau hyn â llaw ac yn eu danfon ein hunain i’r felin bapur leol – adlewyrchiad o’n hymroddiad a’n hymrwymiad i greu byd gwyrddach.

Estyn ein Hanes

Dechreuodd ein prosiectau ehangu, gan gynnal casgliadau ochr ffordd rheolaidd ar gyfer papur, caniau, tuniau a gwydr, ac yn 1998, gwnaethom lwyddo i ailgylchu 480 tunnell – cyflawniad aruthrol i elusen ailgylchu fechan!  Heddiw rydym yn cynnig ystod o fentrau ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff, ac yn 2024 aeth 22,000 o dunelli o ddeunyddiau ailgylchadwy drwy ein canolfan ailgylchu. Mae’r hyn a ddechreuodd unwaith fel ymdrech gymharol fach wedi tyfu’n fwyfwy cyflym, gan arwain y ffordd gyda’r ffocws cynyddol ar yr economi gylchol.

Ein Stori

Ein Stori

Ond nid stori am ddeunyddiau yn unig yw hon; ond stori am bobl. Mae ein siopau a’n canolfannau ailddefnyddio, ynghyd â’n rhaglen gyffrous i wirfoddolwyr, yn croesawu’r rhai sy’n chwilio am ymdeimlad o berthyn, dechrau newydd, neu eu lle eu hunain. Yn 2004, yn sgil symud ein gwaith i’n Canolfan Adnoddau o dan y Bont Gludo yng Nghasnewydd, dechreuom ein rhaglen PEAK, gan weithio gyda rhai sy’n profi anhawster mewn addysg brif ffrwd. Mae’r rhaglen yn darparu sgiliau a chyfleoedd galwedigaethol i blant sydd angen llwybr gwahanol.

Mae ein stori yn tystio i rym dyfalbarhad, y gallu i arloesi, a chred ddiysgog ym mhotensial pobl a’r blaned.

1985-1995

1985

Grŵp o amgylcheddwyr o’r un anian yn penderfynu cychwyn grŵp ymgyrchu i wneud rhywbeth i ‘achub y blaned’.

Dechrau casglu papur o ymyl y ffordd – Dechrau casglu papur gan fusnesau – Yr aelod staff cyflogedig cyntaf – Dechrau’r cynllun dodrefn

1995

22 o dunelli o bapur wedi’u casglu o garreg y drws a swyddfeydd.

1996-2000

1997

12 o bobl yn wedi’u cyflogi, 3699 o eitemau’r cartref wedi’u darparu i bobl mewn angen, 28,000 o aelwydydd yng Nghasnewydd yn derbyn gwasanaeth ailgylchu misol yn defnyddio bagiau, yn ogystal â chasgliadau papur o 127 o swyddfeydd, 480 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio, trosiant o £212k

1998

Cyflwyno’r bocs gwyrdd i 10,000 o aelwydydd mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Bwrdeistref Casnewydd, 1 tryc ailgylchu cawell ‘banana melyn’ yn cael ei ddefnyddio, casgliadau pythefnosol, 627 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2000

Cyflwyno bocsys gwyrdd i 40,000 o aelwydydd, casgliadau pythefnosol – 1,759 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2001-2006

2003

Cyflwyno’r bocs ailgylchu glas, ychwanegu plastig at y casgliad, casgliadau wythnosol. 4,557 tunnell wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio. 22 aelod o staff, cerbydau ailgylchu cawell glas newydd.

2004

Ychwanegu ardaloedd gwledig at y rowndiau casglu, symud i ganolfan ailgylchu bwrpasol ar Ffordd Esperanto – 7,244 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2005

Agor PEAK, agor yr Ystafell Addysg, dechrau Hyfforddiant Wastesavers, 34 aelod o staff – 8,631 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2006

Lansio casgliadau sbwriel pythefnosol, ailddefnyddio/ailgylchu 10,438 o dunelli

2007-2014

2010

Dechrau casglu gwastraff bwyd – 14,211 o dunelli wedi’u hailddefnyddio/hailgylchu

2011

Agor siop newydd ‘Something to Wear’ ar Sgwâr John Frost – prosiect 6 mis o hyd cyn dymchwel y safle, yn gwerthu dillad ail-law o ansawdd da.

2012

Caffael gwasanaeth ailgylchu E-Inclusion – gan alluogi’r grŵp i ailddefnyddio ac ailgylchu offer TG.

2014

Symud o Siop Ddodrefn Gymunedol ym Mhilgwenlli i Ganolfan Ailddefnyddio ym Mharc Ffenics (gan gynnwys E-Inclusion) Cyflwyno bin 180L ar gyfer gwastraff – 14,806 o dunelli wedi’u hailddefnyddio/hailgylchu, ‘tir drws nesaf’ wedi’i gaffael i ehangu’r safle ailgylchu.

2015-2018

2015

Agor Siop y Ganolfan Ailgylchu yng Nghasnewydd – ein siop gyntaf yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Ehangodd y safle ailgylchu i dir drws nesaf, gydag adeiladau newydd, iard a buddsoddiad mewn ffatri ailgylchu ac ynddi linell ddidoli newydd ar gyfer caniau a phlastigau.

2016

Y tunelli o bapur yn dechrau gostwng yn sgil dechrau newid i wasanaethau digidol.

2017

Agor y Sied yn Llantrisant. Ychwanegu cardbord at gasgliadau wythnosol Wastesavers a phrynu fflyd newydd o dryciau ailgylchu Romaquip. 16,146 tunnell wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2018

Cau Wastesavers Training, 18,967 o dunelli wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2019-2021

2019

Y Sied – Treherbert yn agor, The Sidings ym Maesteg yn agor. Casnewydd yn dechrau cyflwyno biniau 120L ar gyfer casgliadau gwastraff. 20,288 tunnell wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2020

Blynyddoedd covid Bu pob aelod o staff yn gweithio oriau ychwanegol drwy gydol y cyfnod clo mewn amodau caled, 15% o gynnydd yn y deunydd a gasglwyd ar ochr y ffordd. Arwyr Ailgylchu. Yr holl staff elusen ar ffyrlo, yr holl siopau ar gau am 6 mis. Ar ôl agor, cawsom ei taro gan ddau gyfnod clo arall. Effeithiodd hyn ar incwm, nifer y tunelli ac iechyd meddwl!

2021

Blynyddoedd petrus ar ôl covid – Wedi symud i’n cartref am byth – Y Ganolfan Ailddefnyddio ar Ffordd Cas-gwent ym Maendy, gan gynnwys dodrefn ac offer TG i’w hailddefnyddio, caffi trwsio a darparu cartref i’r Creudy. Lansio Llyfrgell Cewynnau.

Agor Bywyd Newydd ym Mhentre-bach, agor y Den yn Roseheyworth, agor Y Caban ar Ffordd Lamby, agor The Steelhouse yn New Inn.

2022-2024

2022

Trosiant o £5.5m, 120 aelod o staff, agor caffis trwsio yn Nhorfaen a Chasnewydd, lansio’r Llyfrgell Cewynnau, agor Siop Ailddefnyddio Penallta a’r Sied yn Abertdâr 21,400 tunnell wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2023

Ehangodd y llyfrgell cewynnau ar draws De-ddwyrain Cymru, a lansiwyd casgliadau gwastraff teirwythnosol ar draws Casnewydd. 130 o aelodau staff, 100+ o wirfoddolwyr, 21,700 tunnell wedi’u hailgylchu/hailddefnyddio.

2024

Dechrau ehangu gwaith ailgylchu masnachol, ailfrandio a lansio gwefan!

Ein Cefndir

Meithrin cydraddoldeb yn fyd-eang, gan rymuso cymunedau a phartneriaethau lleol.

Dysgu mwy
Image for Meithrin cydraddoldeb yn fyd-eang, gan rymuso cymunedau a phartneriaethau lleol.