News & Insights
Astudiaeth achos sy’n ysbrydoli gan PEAK
Fe ymunodd Liam O’Brien, myfyriwr Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Cwmbran, â ni yn PEAK ym mis Medi 2022. Fel llawer o fyfyrwyr sy’n dod atom, roedd y disgwyliadau’n isel o ran gallu Liam i ennill tystysgrifau – yn bennaf am ei fod yn cael ei adnabod fel “clown y dosbarth”. Dyn ifanc dymunol llawn hiwmor, roedd Liam weithiau’n cael trafferth rhoi’r gorau i chware lol.
Pan wnaeth Liam gyrraedd, roedd gan ei ysgol gynnig iddo: os byddai ei berfformiad yn gwella yn PEAK, byddai’n cael lle yn y coleg ar gyfer Blwyddyn 11. Er mai dim ond un diwrnod yr wythnos yr oedd yn mynychu, fe lwyddodd, nid yn unig i gael presenoldeb o 100%, ond hefyd i ennill dwy dystysgrif uned ar gyfer y Cwrs Blas ar Waith Coed a’r Prosiect Gwaith Coed.
![](https://wastesavers.co.uk/cy/wp-content/uploads/sites/2/2024/10/Untitled-design-6.jpg)