Wastesavers are a Charity based in South Wales.  We run recycling, reuse and education services.

Here at Wastesavers we take your privacy seriously and will only use your personal information to provide the products and services you have requested from us.  For example we may take your name, address and telephone number, if you request additional recycling containers or if you are booking in a bulky furniture collection.  We treat the data you give us confidentially.

Wastesavers will make sure that all the personal data you give us is;

1:  Treated in a fair and transparent manner

  1. Collected for a specific purpose and not used for anything else
  2. Only kept for the minimum amount of time
  3. Kept up to date or erased or rectified if you tell us its inaccurate
  4. Kept safely to avoid loss, destruction, damage or theft

Recycling Services

When you call us, email us or use direct messaging via social media to discuss our recycling services (whether to order a recycling container, to request an assisted collection or to register a complaint) your data will be used only for the purpose you give it.  We will not pass your details onto anyone else.  Sometimes we have to report to other organisations about our performance (for example about the number of complaints we get), but when we do this we remove all personal data that could identify you from this data.

Furniture Reuse

When you call us to arrange a furniture collection, we will take personal details from you. This is with your consent.  We may also ask you whether or not you would like to donate an additional amount through Gift Aid.  When you ‘gift aid’ a donation it means we are able to reclaim some tax back from HMRC on your donation.  This will mean passing your details onto HMRC who will process this claim.  When this happens we will write to you with information about this.  We will only do this if you give us permission to do this by signing a document when we visit your home to collect furniture.  We will not use this data for any other purpose and we will not pass this onto anyone other than the HMRC.

Marketing and Research

We do not and will not collect personal data for marketing purposes unless you give us express permission to do so.

CCTV on Vehicles

All Vehicles have CCTV on them to record the collections taking place.  This information is used when monitoring performance, when we have reports of missed collections and when an incident or accident occurs.  We will only use this data when an incident prompts us to take action.

 

More Information about our data protection regulations, including how long we store data for can be found in our GDPR (2018) Policy.

 

Contacting us

Please do not hesitate to contact us regarding any matter relating to this Privacy Policy via email:   reception@wastesavers.co.uk

 

Elusen sy’n gweithio yn Ne Cymru yw Wastesavers. Rydym yn rhedeg gwasanaethau
ailgylchu, ailddefnyddio ac addysg.

Yma yn Wastesavers, rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth
bersonol i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cymryd eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn, os byddwch yn gofyn am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu os ydych yn trefnu i ni ddod i gasglu celficyn swmpus. Rydym yn trin y data rydych yn ei roi i ni yn gyfrinachol.

Bydd Wastesavers yn sicrhau bod yr holl ddata personol a roddwch i ni yn cael ei:
1. Drin mewn dull teg a thryloyw
2. Casglu at ddiben penodol a ddim yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall
3. Cadw am yr isafswm amser yn unig
4. Cadw’n gyfoes neu’n cael ei ddileu neu ei gywiro os byddwch yn dweud wrthym ei fod yn anghywir
5. Cadw’n ddiogel er mwyn sicrhau nad yw eich data personol yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei ddifrodi neu ei
ladrata

Gwasanaethau Ailgylchu

Pan fyddwch chi’n ein ffonio, anfon e-bost atom neu’n defnyddio negeseuon uniongyrchol trwy’r cyfryngau
cymdeithasol i drafod ein gwasanaethau ailgylchu (pa un ai a ydych eisiau archebu cynhwysydd ailgylchu, gofyn am wasanaeth casglu â chymorth neu i wneud cwyn) bydd eich data yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw yn unig. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw un arall. Weithiau mae’n rhaid i ni adrodd am ein perfformiad i
sefydliadau eraill (er enghraifft, ynghylch y nifer o gwynion rydym yn eu cael), pan fyddwn yn gwneud hynny, rydym yn dileu’r holl ddata personol a allai ddatgelu eich hunaniaeth.

Ail-ddefnyddio celfi

Pan fyddwch chi’n ein ffonio i drefnu i ni ddod i gasglu celficyn, byddwn yn cymryd manylion personol gennych chi. Mae hyn gyda’ch caniatâd chi. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi a hoffech chi roi swm ychwanegol trwy
Rhodd Cymorth ai peidio. Pan fyddwch chi’n ‘rhoi Rhodd Cymorth’ mae’n golygu ein bod ni’n gallu adennill rhywfaint o dreth yn ôl gan CThEM. Bydd hyn yn golygu trosglwyddo eich manylion i CThEM a fydd yn prosesu’r hawliad hwn. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth am hyn. Byddwn ond yn gwneud hyn os ydych yn rhoi eich caniatâd trwy lofnodi dogfen pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref i gasglu celfi. Ni fyddwn yn
defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall ac ni fyddwn yn trosglwyddo’r data i unrhyw un heblaw am CThEM.

Marchnata ac Ymchwil

Nid ydym yn casglu data personol at ddibenion marchnata oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.

Camerâu CCTV ar Gerbydau

Mae gan ein holl gerbydau gamerâu CCTV arnynt i gofnodi’r casgliadau. Defnyddir y wybodaeth hon wrth fonitro perfformiad, pan fyddwn yn cael adroddiadau am gasgliadau wedi’u colli neu os fydd digwyddiad neu ddamwain yn digwydd. Byddwn ond yn defnyddio’r data hwn pan fydd digwyddiad yn digwydd sy’n golygu bod rhaid i ni weithredu.

Mae mwy o wybodaeth am ein rheoliadau diogelu data, gan gynnwys pa mor hir yr ydym yn storio data i’w cael yn ein Polisi GDPR (2018).