Mae ein stoc o ddodrefn wedi’i ddefnyddio a nwyddau gwynion o safon yn newid bob amser.
Mae’n well i chi alw heibio – rydym oddi ar Corporation Rd.
Mae gennym drefniadau gyda rhai prif siopau i werthu stoc y rhoddwyd y gorau i’w werthu a stoc mae cwsmeriaid wedi’i ddychwelyd. Prin yw defnydd llawer o’r eitemau hyn neu maen nhw bron yn “newydd.”
Mae gennym stoc a dewis da o gyfrifiaduron wedi’u defnyddio sydd wedi’u profi a’u gwarantu bob amser. Hefyd, mae gennym amrywiaeth eang o gydrannau i bobl sy’n hoffi technoleg.
Sut mae’n gweithio
Rydym yn casglu dodrefn o safon nad oes mo’i angen ac eitemau yn y cartref o Gasnewydd a thu hwnt.
Mae ein gwirfoddolwyr a’n staff yn glanhau a phrofi’r holl eitemau cyn i ni eu rhoi ar-lein neu yn ein siop i’w gwerthu.
Rydym yn helpu pobl yn ôl i gyflogaeth, gan roi amrywiaeth o sgiliau newydd iddynt mewn amgylchedd heb bwysau.
Mae gennym drwydded lawn i gasglu ac adnewyddu hen gyfrifiaduron a’u gwerthu i’r cyhoedd.